Matthew 4

Iesu'n cael ei demtio

(Marc 1:12,13; Luc 4:1-13)

1Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn arwain Iesu allan i'r anialwch i gael ei demtio gan y diafol. a 2Ar ôl bwyta dim byd
4:2 bwyta dim byd: Weithiau roedd yr Iddewon yn peidio bwyta (sef ‛ymprydio‛) am gyfnod, i ddangos eu bod yn caru Duw a bod yn ddrwg ganddyn nhw am eu pechodau.
am bedwar deg diwrnod, roedd yn llwgu.
3Dyna pryd y daeth y diafol i'w demtio. “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i'r cerrig yma droi'n fara,” meddai.

4“Na!”, atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud mai ‘Nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl ei angen i fyw, ond popeth mae Duw yn ei ddweud.’” c

5Wedyn dyma'r diafol yn mynd â Iesu i'r ddinas sanctaidd (hynny ydy Jerwsalem) a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. 6“Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o'r fan yma. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud:

‘Bydd Duw yn gorchymyn i'w angylion
dy ddal yn eu breichiau,
fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.’” d

7Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi'r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’ e

8Yna dyma'r diafol yn mynd ag e i ben mynydd uchel iawn, a dangos holl wledydd y byd a'u cyfoeth iddo. 9A dwedodd y diafol wrtho, “Cei di'r cwbl gen i os gwnei di blygu i lawr i fy addoli i.”

10Ond dyma Iesu'n dweud, “Dos i ffwrdd Satan! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e'n unig.’ f

11Yna dyma'r diafol yn ei adael, a daeth yr angylion ato a gofalu amdano.

Iesu'n dechrau pregethu yn Galilea

(Marc 1:14,15; Luc 4:14,15)

12Pan glywodd Iesu fod Ioan wedi cael ei garcharu, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea. 13Ond yn lle mynd i Nasareth, aeth i fyw i Capernaum sydd ar lan y llyn yn ardal Sabulon a Nafftali. 14Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir:

15 “Tir Sabulon a thir Nafftali, sydd ar Ffordd y Môr,
a'r ardal yr ochr draw i Afon Iorddonen,
hynny ydy Galilea, lle mae pobl o genhedloedd eraill yn byw –
16Mae'r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch
wedi gweld golau llachar;
ac mae golau wedi gwawrio
ar y rhai sy'n byw dan gysgod marwolaeth.” g

17Dyna pryd y dechreuodd Iesu gyhoeddi ei neges, “Trowch gefn ar bechod, achos mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.”

Galw'r disgyblion cyntaf

(Marc 1:16-20; Luc 5:1-11)

18Un tro roedd Iesu'n cerdded ar lan Llyn Galilea, a gwelodd ddau frawd – Simon, roedd pawb yn ei alw'n Pedr, a'i frawd Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn. 19Dyma Iesu'n galw arnyn nhw, “Dewch, dilynwch fi, a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod.” 20Heb oedi, dyma'r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl.

21Wrth gerdded yn ei flaen, gwelodd Iesu ddau frawd arall, Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw mewn cwch hefo Sebedeus eu tad yn trwsio eu rhwydi. Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd, 22a dyma nhw'n gadael y cwch a'u tad a dechrau dilyn Iesu.

Iesu'n iacháu cleifion

(Luc 6:17-19)

23Roedd Iesu'n teithio ar hyd a lled Galilea, yn dysgu'r bobl yn y synagogau, yn cyhoeddi'r newyddion da am deyrnasiad Duw, ac yn iacháu pob afiechyd a salwch oedd ar bobl. h 24Daeth Iesu'n enwog y tu allan i Galilea, ac roedd pobl o bob rhan o Syria yn dod â phawb oedd yn sâl ato – pobl oedd yn dioddef o afiechydon gwahanol, neu mewn poen, eraill yng ngafael cythreuliaid, yn dioddef o ffitiau epileptig, neu wedi eu parlysu. Iachaodd Iesu nhw i gyd. 25Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn i bobman – pobl o Galilea, y Decapolis
4:25 y Decapolis: Deg o drefi i'r dwyrain o Samaria a Galilea.
, Jerwsalem a Jwdea, ac o'r ochr draw i Afon Iorddonen.

Copyright information for CYM